Dechreua dy flwyddyn drwy ymuno â chymuned Bod yn ACTIF Prifysgol Abertawe!

Mae Bod yn ACTIF yn ymwneud â darganfod gweithgareddau cyffrous, cadw’n heini, a chwrdd â phobl newydd – i gyd mewn amgylchedd hwyl a chroesawgar. P’un a wyt ti’n ddechreuwr neu’n chwilfrydig i roi cynnig ar rywbeth newydd, bydd rhywbeth i ti gydag amrywiaeth o weithgareddau, gan gynnwys:

  • Syrffio
  • Pêl-foli
  • Pêl-fasged
  • Ioga
  • Badminton
  • Pêl-rwyd

Pam ymuno?

  • Mae’n fforddiadwy ac yn hygyrch: Mae pob sesiwn am ddim neu’n rhad.
  • Does dim angen unrhyw brofiad: dere draw i roi cynnig arni!
  • Ti sy’n llunio’r rhaglen: Rydym yn gwerthfawrogi dy syniadau a’th adborth di i gadw gweithgareddau’n ffres ac yn hwyl.
Paid â cholli’r cyfle! Bydd yn ACTIF, creu atgofion, a rhoi cynnig ar rywbeth newydd eleni. Rhagor o wybodaeth a chofrestru yma:

Let’s make 2025 your most active and adventurous year yet!