Cafodd yr erthygl hon ei chyhoeddi yn wreiddiol yn ‘The Student’ ar gyfer Times Higher Education ym mis Tachwedd 2024.

Ynglŷn â’r awduron: Yr Athro Andrew Kemp yw arweinydd ymchwil yr Ysgol Seicoleg ym Mhrifysgol Abertawe; ac mae Stuart Gray yn Swyddog Bywyd Myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe.

Cafodd y gwaith hwn ei gynnwys yn Embedding Wellbeing into the Curriculum: A Good Compendium of Good Practice, a gyhoeddwyd gan Advance HE, a lluniwyd gan Brifysgol Abertawe (Yr Athro Joanne Berry), Prifysgol Portsmouth (Fiona Cook), Prifysgol Buckingham (Yr Athro Harriet Dunbar-Morris) a Phrifysgol Bangor (Yr Athro Fran Garrad-Cole).

Gall cysylltu â’ch hun a’ch amgylchfyd ar lefel gyfannol wella eich lles personol gan gael effaith gadarnhaol ar y byd o’ch cwmpas ar yr un pryd.

Wrth feddwl am les, rydym yn aml yn meddwl am reoli straen neu fodloni gofynion unigol, ond mae lles go iawn yn cynnig llawer mwy na hynny. Mae’n cynnwys creu cysylltiadau dyfnach – gyda chi eich hun, y rhai hynny sydd o’ch cwmpas a chyda’r byd naturiol.

Fel myfyriwr, mae’n hawdd canolbwyntio ar gwblhau un dydd ar y tro; ond pan fyddwch yn ehangu eich barn ar beth yw lles, daw i’r amlwg fod cyswllt agos rhyngddo a lles eich cymuned a’r blaned. Byddwch chi’n elwa o gymryd yr amser i fyfyrio ar eich gofynion, cryfhau eich perthnasoedd a threulio amser ym myd natur, ond byddwch hefyd yn cyfrannu at y byd o’ch cwmpas. Mae adnabod y cydgysylltiad hwn yn meithrin trugaredd a gwydnwch, gan adeiladu cymunedau cryfach a chefnogi byd mwy cynaliadwy.

 

Lles cyfannol: agwedd ehangach

Mae ein hymchwil yn dangos bod canolbwyntio ar gysylltiadau gyda’ch hun, gydag eraill a chyda byd natur yn arwain at welliannau sylweddol i les cyffredinol. Wedi’i hadnabod gan Advance HE fel enghraifft o arfer da, mae’r agwedd hon yn amlygu sut mae gweithredoedd unigol yn cyfrannu at les torfol, o fewn y Brifysgol a thu hwnt. Dyma sut y gallwch feithrin lles cyfannol ar lefel bersonol, torfol a phlanedol.

Lles personol: mae lles cyfannol yn dechrau gyda chi

Mae lles personol yn fwy na rheoli straen ac emosiynau anodd – mae’n cynnwys gwneud newidiadau bychain, ystyrlon sy’n gwella’r meddwl a’r corff. Gall ymyriadau seicolegol cadarnhaol ac arferion iach megis defnyddio cryfderau eich cymeriad, myfyrio a chymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol cyson adeiladu sylfaen gref ar gyfer lles cyfannol hirdymor. Dyma sut i ddechrau arni:

  • Cryfderau Cymeriad: myfyriwch ar eich cryfderau unigryw a’u defnyddio i oresgyn heriau a dilyn nodau. Darganfyddwch eich cryfderau drwy’r arolwg VIA.
  • Myfyrdod dyddiol: myfyriwch am ddim ond 10 munud y dydd er mwyn canolbwyntio ar y presennol a lleihau profiadau megis iselder (sy’n canolbwyntio ar y gorffennol) a gorbryder (sy’n canolbwyntio ar y dyfodol).
  • Gweithgarwch Corfforol: gall hyd yn oed ychydig o weithgarwch corfforol, megis cerdded 4,000 o gamau y dydd, wella eich iechyd a chael effaith gadarnhaol ar eich lles. Er mwyn herio eich hun ymhellach, gallwch ddefnyddio ap i’ch helpu i ddechrau rhedeg yn rheolaidd.

Nid oes angen i chi drawsnewid eich bywyd ar unwaith, ac mae llawer o ymyriadau sy’n canolbwyntio ar les ac sy’n seiliedig ar dystiolaeth y gallwch eu harchwilio (gweler, er enghraifft, yma ac yma). Mae canolbwyntio ar newidiadau bychain, rheolaidd sy’n addas ar gyfer eich trefn arferol yn allweddol. Y nod yw datblygu arferion sy’n hyrwyddo lles parhaol.

Lles torfol: cryfhau eich cysylltiadau ag eraill

Tra bod gennym ychydig o allu i wella ein lles ein hun, mae cysylltu ag eraill yn chwarae rôl allweddol wrth ei wella ymhellach, yn ogystal â gwella lles y bobl rydym yn rhyngweithio â nhw. Mae cysylltiadau cymdeithasol cryf hefyd yn meithrin ymdeimlad o berthyn a phwrpas a rennir, sy’n hybu lles torfol. Yn hollbwysig, hyd yn oed os nad ydych yn teimlo fel rhyngweithio ag eraill, gall osgoi cysylltiad gael effaith negyddol ar eich lles.Mae cysylltu ag eraill yn anghenraid seicolegol sylfaenol. Dyma sut i gryfhau eich cysylltiadau:

  • Ymaelodwch â chlwb neu gymdeithas i fyfyrwyr: mae bod yn rhan o grŵp yn hyrwyddo ymdeimlad o berthyn, sy’n hanfodol i les unigol a thorfol. Mae rhyngweithio â phobl sy’n rhannu eich diddordebau yn helpu i adeiladu.
  • Gwirfoddolwch gyda sefydliad neu achos rydych yn angerddol amdano: mae gwirfoddoli’n cynnig y cyfle i gyfrannu at rywbeth sydd yn fwy ac yn ehangach na chi eich hun. Mae’n meithrin ymdeimlad o ystyr a phwrpas, gan hybu eich lles tra hefyd yn cael effaith gadarnhaol ar eich cymuned.

Mae buddsoddi mewn lles torfol nid yn unig o fudd i chi, ond mae hefyd yn helpu i greu amgylchedd cefnogol a chynhwysol sy’n medru arwain at gymdeithas fwy trugarog.

Lles planedol: ail-gysylltu â natur

Mae gan ein lles gysylltiad agos ag iechyd y blaned, ac mae’r berthynas hon yn fuddiol i bawb. Gall treulio amser goddefol ym myd natur hybu iechyd meddwl ac iechyd corfforol, ond mae ymgysylltu’n weithgar â natur yn cynnig buddion gwell byth. Mae ymgysylltu’n weithgar â natur – p’un a ydyw drwy fentrau cynaliadwyedd neu’n rhyngweithiad ystyrlon â’r amgylchedd – yn medru gwella lles ymhellach a meithrin ymddygiad o blaid yr amgylchedd. Dyma sut y gallwch (ail)gysylltu â natur:

  • Treulio amser mewn lleoedd gwyrdd: hyd yn oed mewn ardaloedd adeiledig, dewch o hyd i barciau neu leoedd gwyrdd lle gallwch ailgysylltu â natur. Mae ymchwil yn dangos bod angen 120 munud yr wythnos yn natur er mwyn hybu eich hwyliau, lleihau straen a gwella gweithrediad gwybyddol.
  • Ymgysylltu â mentrau cynaliadwyedd: mae llawer o brifysgolion a chymunedau’n cynnig cyfleoedd i ymuno â phrosiectau cynaliadwyedd, megis garddio cymunedol neu ymdrechion glanhau. Mae’r gweithgareddau hyn o fudd i’r blaned tra hefyd yn meithrin ymdeimlad o bwrpas a chysylltiad.

Drwy ofalu am yr amgylchedd, rydych yn cyfrannu at les planedol tra hefyd yn cryfhau eich lles personol.

Gweithredu: llunio lles a chyfrannu at newid cadarnhaol

Fel myfyriwr, rydych chi’n rhan bwysig o ecosystem y Brifysgol. Drwy flaenoriaethu eich lles eich hun a chysylltu ag eraill a’r amgylchedd, rydych yn helpu i lunio diwylliant o ofal o fewn eich Prifysgol a thu hwnt. Mae’r dewisiadau rydych chi’n eu gwneud – gan gynnwys, er enghraifft, ymuno â chymdeithas, cefnogi eich cyfoedion neu gymryd rhan mewn ymdrechion cynaliadwyedd – nid yn unig o fudd i chi. Maen nhw’n cyfrannu at adeiladu cymunedau mwy trugarog, gwydn a chynaliadwy.