Mae Arian@BywydCampws yn falch o gyhoeddi y bydd yn cynnig dyfarniad nad oes angen ei ad-dalu i fyfyrwyr cymwys. Nod y gronfa hon yw cynorthwyo â chostau sy’n ymwneud â chyrsiau ôl-raddedig.
Mae dyfarniadau gwerth £300 ar gael i’r holl fyfyrwyr ôl-raddedig. *Rhaid bodloni’r meini prawf i gymhwyso
Cymhwysedd:
I fod yn gymwys i gyflwyno cais am y taliad hwn, rhaid i chi:
- Fod yn fyfyriwr ôl-raddedig presennol, cofrestredig, o’r DU (a addysgir neu ymchwil)
- Cael mwy na 5 wythnos yn weddill o’ch cwrs
Gallwch gyflwyno cais ar-lein yma: Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe.
Dewisa’r Gronfa Cymorth i Fyfyrwyr, yna clicia’r opsiwn ‘ Taliad Cymorth Ôl-raddedig’ o’r gwymplen.
Sylwer y bydd yn rhaid i chi ddarparu cyfriflenni banc am un mis yn unig ar gyfer pob cyfrif sydd gennych.
Gall ceisiadau ond gael eu prosesu pan fydd yr holl dystiolaeth ofynnol wedi’i lanlwytho i’r ffurflen ar-lein.
Os oes gennych ymholiadau eraill am gyflwyno cais, e-bostiwch hardshipfunds@abertawe.ac.uk.
Gall myfyrwyr rhyngwladol fod yn gymwys i gael cymorth drwy ein Cronfa Cymorth Rhyngwladol. E-bostiwch ni i drafod eich amgylchiadau: hardshipfunds@abertawe.ac.uk.
*dim ond un cais y myfyriwr y flwyddyn academaidd
Dyfarniadau eraill sydd ar gael gan Arian@BywydCampws
Sylwer ein bod yn cynnig cymorth ariannol arall i fyfyrwyr cymwys:
- Taliad Cymorth Gofal Plant
- Dyfarniad mamolaeth
- Taliad Cymorth Teithio
Mae manylion pellach am y rhain ar gael yma: Bwrsariaethau a Dyfarniadau Arbennig gan Arian@BywydCampws – Prifysgol Abertawe gyda gwybodaeth am sut i gyflwyno cais.
Cronfa Cyfle Prifysgol Abertawe
I fyfyrwyr sy’n wynebu caledi, rydym yn eu hannog nhw i gyflwyno cais am ein cronfa Galedi. Mae mwy o wybodaeth a dolenni i gyflwyno cais ar gael yma: Help gyda Chaledi – Prifysgol Abertawe
Mae Arian@BywydCampws yn ymrwymedig i gefnogi a hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ei holl arferion a gweithgareddau. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl sydd â’r nodweddion gwarchodedig canlynol: oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas a phartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil (gan gynnwys lliw croen, cenedligrwydd, tarddiad ethnig a chenedlaethol), crefydd a chred, rhyw, tueddfryd rhywiol.