Beth sy’n Digwydd?
Mae’r digwyddiad hwn yn fwy na ffair groeso – mae’n gyfle i archwilio, cysylltu, a chael hwyl!
Cwrdd â’n Timau Cymorth:
Darganfyddwch sut y gall timau megis Bywyd Campws, Lles ac Anabledd, Academi Cyflogadwyedd Abertawe, y Ganolfan Llwyddiant Academaidd, Chwaraeon Abertawe, Cynaliadwyedd, Teithio a ‘Discovery’ eich cefnogi chi. (Gallwch ddod o hyd i restr gyflawn o’r gwasanaethau sydd ar gael ar dudalen y digwyddiad)
- Mwynhewch weithgareddau a nwyddau am ddim
- Casglwch rai nwyddau am ddim tra’n dysgu am ein gwasanaethau
- Ardal i ymlacio gyda diodydd a byrbrydau am ddim
- Byddwch yn greadigol gyda chelf a chrefftau neu ymunwch â rhai gemau bwrdd
- Cwrdd â Molly y ci!
- Cymrwch ran yn ein gweithgaredd 3 Pheth Da ym Myd Natur
…a llawer mwy!
Mae hyn yn digwydd ddydd Mercher, 29 Ionawr 2025, 1pm-3pm yn Y Twyni, Campws y Bae.