Thema Diwrnod Cofio’r Holocost eleni yw Ar gyfer dyfodol gwell.
Bydd Prifysgol Abertawe’n nodi Diwrnod Coffáu’r Holocost dydd Mawrth, 28 Ionawr 2025, ynghyd â digwyddiad Zoom ar-lein rhwng 10.30am a 11.30am. Bydd ein siaradwr gwadd, Melanie Martin, yn rhannu stori Tootje (Cato) (1926 – 2020).
Granaat yn Amsterdam ym 1926. Cafodd ei magu fel Iddew ac roedd ei phlentyndod yn hapus tan ddechrau’r Rhyfel, a ddechreuodd yn yr Iseldiroedd ym mis Mai 1940. Bydd Melanie yn rhannu’r hyn a ddigwyddodd pan geisiodd ei theulu ffoi i Loegr a methu. Mae cyflwyniad Melanie yn darparu stori am ddewrder, dygnwch, colled a chariad a ategir gan gynnwys hanesyddol wedi’i ymchwilio’n ofalus. Fe’i darlunnir â ffotograffau, fideos, llythyrau a mapiau personol a hanesyddol.
Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch equalopportunities@swansea.ac.uk