Mae’r amserlenni bysiau yn ystod y tymor yn dechrau eto o ddydd Sul 26 Ionawr ac mae rhai gwelliannau gwych i’r gwasanaethau ar gyfer myfyrwyr Prifysgol Abertawe.

Gwasanaeth 89

  • Bydd bysiau 17:05 a 18:05 o Gampws y Bae, a oedd yn dod i ben y daith y tu allan i True o’r blaen, bellach yn mynd ymlaen i Orsaf Fysiau Abertawe, gan ddarparu gwasanaethau bws ychwanegol ar gyfer myfyrwyr sy’n byw yn Nhŷ Nant, Seren, Canolfan Oldway a Coppergate.

Gwasanaeth 91

  • Rydyn ni wedi ychwanegu taith gynharach o Gampws Singleton i Gampws y Bae drwy Uplands, a fydd yn gadael am 07:13 (gan gyrraedd y Bae am 07:58).
  • Rydyn ni wedi ychwanegu taith o Stryd Christina i Gampws y Bae am 08:09 ac am 09:09 i gynnig gwasanaethau ychwanegol ar hyd rhan brysuraf y daith i gyrraedd erbyn dechrau darlithoedd 9am a 10am.

Gwasanaeth 92

  • Rydyn ni i wedi cyflymu teithiau drwy gael gwared ar ran Parcio a Theithio Ffordd Fabian y daith. Ar gyfer gwasanaethau parcio a theithio i Gampws y Bae, defnyddiwch wasanaeth AM DDIM U1 Prifysgol Abertawe.
  • Rydyn ni wedi ychwanegu taith gynharach o Gampws Singleton i Gampws y Bae drwy’r Orsaf Fysiau, a fydd yn gadael am 07:10 (gan gyrraedd y Bae am 07:42).
  • Rydyn ni wedi ychwanegu taith gynharach o Gampws y Bae i Gampws Singleton drwy’r Orsaf Fysiau, a fydd yn gadael am 07:25 (gan gyrraedd Singleton am 08:02).
  • Rydyn ni wedi ychwanegu taith ychwanegol o Gampws Singleton i Gampws y Bae am 08:00, a fydd yn cyrraedd y Bae am 08:32. Mae hwn yn fws ychwanegol yn ogystal â’r 08:10 er mwyn cynnig gwasanaeth ychwanegol i’r rhai sy’n teithio o Brynmill isaf, Heol San Helen a’r Orsaf Fysiau.
  • Rydyn ni wedi ychwanegu taith ychwanegol o Gampws y Bae i Gampws Singleton am 08:00, a fydd yn cyrraedd Singleton am 08:37. Mae hwn yn fws ychwanegol yn ogystal â’r 08:10 er mwyn cynnig gwasanaeth ychwanegol i’r rhai sy’n teithio o’r Bae i gyfeiriad Singleton.

Mae’r amserlenni bellach yn weithredol. Gallwch eu gweld ar y tudalennau llwybrau a mapiau neu edrychwch ar dudalen Rhwydwaith Unibus.  

Os oes gennych adborth am y gwasanaethau, defnyddiwch ein ffurflen Dywedwch wrthym am teithio, neu ymunwch â ni yn eich cyfarfod Grŵp Defnyddwyr Bysiau nesaf ym mis Chwefror.