Eisiau cryfhau gwydnwch meddwl tra'n chwarae gêm fideo?
Pwrpas yr astudiaeth:
Nod yr astudiaeth hon yw archwilio sut y gall chwarae gêm fideo yn seiliedig ar Therapi Derbyn ac Ymrwymiad (ACT) helpu i reoli pryder, iselder, a straen. Rydym yn ymchwilio i weld a all y dull rhyngweithiol a deniadol hwn wella hyblygrwydd seicolegol, gan wneud hi’n haws llywio heriau iechyd meddwl.
Beth sydd i chi yn hyn?
Trwy gymryd rhan, byddwch yn dysgu sgiliau newydd i reoli straen, pryder ac iselder wrth gyfrannu at ymchwil i wella triniaethau iechyd meddwl. Byddwch hefyd yn cael mwynhau gêm unigryw a deniadol sydd wedi’i chynllunio i hybu eich lles.
Beth mae cymryd rhan yn ei olygu?
Byddwch yn chwarae gêm fideo 45 munud o hyd sydd wedi’i dylunio i ddysgu sgiliau seicolegol, ac yna byddwch yn cwblhau holiaduron am 10 munud. Byddwch hefyd yn cwblhau mesuriadau ECG 5 munud cyn ac ar ôl y gêm, ac yna holiadur dilynol dair wythnos yn ddiweddarach. Bydd pob sesiwn mewn amgylchedd labordy rheoledig.
I bwy mae hyn?
Mae’r astudiaeth hon ar gyfer oedolion 18+ sydd yn profi symptomau ysgafn i gymedrol o bryder, iselder, neu straen. Os ydych yn barod i roi cynnig ar ymyriad sy’n seiliedig ar gêm fideo i reoli’r heriau hyn, byddem wrth ein bodd yn eich cael chi i ymuno â ni!
Pryd a ble?
Mae’r astudiaeth yn rhedeg tan ganol 2025. Bydd amser penodol yn cael ei drefnu gyda chi.
Prifysgol Abertawe, Campws Parc Singleton, SA2 8PP
Am ragor o wybodaeth:
Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â’n hastudiaeth, cysylltwch â Tom Gordon am daflen wybodaeth lawn a manylion sut i gofrestru, neu cliciwch yma.