Ffair Mynd yn Fyd-eang Prifysgol Abertawe’n dychwelyd i Gampws Singleton a’r Bae mis Chwefror hwn. Ymunwch â’r tîm Mynd yn Fyd-Eang i ganfod mwy o wybodaeth am yr ystod eang o gyfleoedd rhyngwladol cyffrous sydd ar gael. Nid oes rhaid i chi fod ar raglen blwyddyn dramor i gael profiad rhyngwladol. Mae ystod o gyfleoedd byr dymor dros yr haf, hyd yn oed i fyfyrwyr nad ydynt yn siarad iaith arall.

Meddyliwch am dreulio mis yn gwirfoddoli yn Fiji neu UDA, yn astudio yn Sbaen, neu yn dysgu am iaith a diwylliant De Corea….mae rhywbeth i bawb!

Bydd y tîm Mynd yn Fyd-eang wrth law i siarad â chi am yr ystod eang o raglenni haf a’r cyllid hael sydd ar gael am gyfleoedd rhyngwladol (nid yw ar gael i fyfyrwyr y flwyddyn olaf).

Galwch heibio i’r naill: Creu Taliesin, Campws Singleton am 12.30yp – 2.30yp Ddydd Llun 10 Chwefror

NEU’r llall:

Peirianneg Ganolog, Campws y Bae, 10.30am-12.30pm Dydd Mawrth 11 Chwefror

Am fwy o wybodaeth ewch i: www.swansea.ac.uk/summerprogrammes neu e-bostiwch â studyabroad@swansea.ac.uk