Rydyn ni’n lansio ein Harolwg Mawr Abertawe mewn steil yng Ngŵyl Adborth MyUni’r wythnos hon, a’r cyfan a ofynnwn yw dy fod yn rhannu dy farn â ni!

Dere draw i Taliesin rhwng 10yb a 3yp heddiw i gwblhau’r arolwg, mwynhau bwyd am ddim, crefftau, gemau a llawer mwy.

Bydd hyd yn oed Molly’r ci yn galw heibio i fwynhau’r hwyl.

Os byddi di ar Gampws y Bae, galwa heibio i’r digwyddiad yfory sy’n cael ei gynnal yn Y Guddfan rhwng 10am a 3pm.

Paid â cholli’r cyfle hwn!