Wyt ti’n siarad iaith yn rhugl neu ar lefel frodorol? Gelli di rannu dy wybodaeth a’th ddiwylliant drwy fod yn Arweinydd Iaith ar gyfer ein Caffi Ieithoedd newydd sbon!

Beth yw'r Caffi Ieithoedd?

Digwyddiad wythnosol yw’r Caffi Ieithoedd a gynhelir ar y campws yn ystod y tymor. Mae’n lle bywiog lle gall myfyrwyr ddysgu ac ymarfer ieithoedd gwahanol mewn amgylchedd anffurfiol a difyr. Mae pob sesiwn yn cynnwys byrddau sy’n ddynodedig ar gyfer ieithoedd penodol, a bydd Arweinwyr Iaith yn arwain sgyrsiau ac yn addysgu ymadroddion defnyddiol.

Yr hyn rydym yn chwilio amdano:

  • Siaradwyr brodorol neu siaradwyr rhugl mewn unrhyw iaith.
  • Unigolion cyfeillgar, hawdd mynd atynt sy’n frwdfrydig am rannu eu hiaith a’u diwylliant.
  • Nid oes angen profiad o addysgu – dim ond brwdfrydedd a pharodrwydd i ymgysylltu â myfyrwyr!

Y manteision i ti:

  • Cyfle i gysylltu â myfyrwyr o gefndiroedd amrywiol.
  • Cyfle i ddatblygu sgiliau arwain, cyfathrebu a chyfnewid diwylliannol.
  • Tystysgrif i nodi dy fod ti wedi cymryd rhan ar gyfer dy CV.
  • Geirdaon wedi’u personoli ar gyfer ceisiadau am swyddi neu gyfleoedd academaidd yn y dyfodol

Ymrwymiad:

  • Arwain bwrdd am 90 o funudau bob wythnos yn ystod y tymor.
  • Creu gwersi ar gyfer y sesiynau (darperir cynlluniau gwersi)

Sut i gyflwyno cais:

Ymuna â ni ar gyfer y Diwrnod Gwybodaeth am y Caffi Ieithoedd ar 12 Chwefror i ddysgu rhagor am y fenter a sut gelli di gymryd rhan. Bydd gennyt gyfle i ofyn cwestiynau a chofrestru fel Arweinydd Iaith.

Os oes gennyt gwestiynau, e-bostia GoSocial.