Os oes gennych symptomau’r menopos, neu os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y menopos, galwch heibio i’n Caffi Menopos ddydd Mercher 19 Chwefror rhwng 1.30pm a 3pm.

Bydd y caffi, sy’n agored i staff a myfyrwyr, yn cael ei gynnal ar drydydd dydd Mercher pob mis, wyneb yn wyneb ac ar-lein dros Zoom. Does dim angen cofrestru ymlaen llaw os ydych chi’n bwriadu dod i’r sesiwn ar y campws ond os hoffech chi ymuno ar-lein, bydd angen i chi gofrestru yma

Y mis hwn, caiff ei gynnal yn yr Academi Iechyd a Llesiant ar Gampws Singleton (ystafell ymneilltuo myfyrwyr) a bydd yn darparu amgylchedd diogel i siarad am y menopos, sy’n effeithio ar gynifer o fenywod a’u teuluoedd.  Mae hefyd yn gyfle i reolwyr llinell wella eu gwybodaeth yn y maes hwn fel y gallant gefnogi aelodau eu timau.

Bydd pob Caffi yn dechrau â sgwrs fer am bwnc penodol sy’n ymwneud â’r menopos ac yna bydd cyfle i ofyn cwestiynau a thrafod o fewn y grŵp.  

Yn y sesiwn hon, bydd Dr Rachel Churm o’r Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn tynnu sylw at yr ymchwil mae hi’n ei gwneud i ymarfer corff a’r menopos ac yn darparu manylion a chyngor ar y buddion a all ddeillio o hyn.

Mae’r Brifysgol yn ymrwymedig i ddarparu cymorth llawn a chadarnhaol ar gyfer y menopos ac mae’n ymroddedig i greu amgylchedd cynhwysol a chefnogol i bawb sy’n gweithio ac yn astudio yma. 

Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yno.