Hoffech chi ddysgu Cymraeg? Mae Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe yn cynnig cyfle i fyfyrwyr a staff fynychu Sesiwn Flasu Cymraeg AM DDIM ar Gampws Singleton ar Ddydd Llun y 3ydd o Fawrth 2025!
Byddwch yn cael eich cyflwyno i eirfa ac ymadroddion sylfaenol newydd. Efallai y bydd y sesiwn yn eich ysbrydoli i barhau a chofrestru ar gwrs Cymraeg i ddechreuwyr.
Os ydych chi ar gael rhwng 1-2yp ar y dyddiad uchod, cofrestrwch yma:
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, neu os hoffech chi dderbyn mwy o wybodaeth, gallwch ebostio Swyddfa Dysgu Cymraeg – Ardal Bae Abertawe.
‘Dyn ni’n edrych ymlaen at eich gweld chi yn y dosbarth cyn bo hir!