Mae cael mynediad at ofal meddygol pan fyddwch ei angen yn hanfodol i bob myfyriwr. P’un a ydych chi’n newydd i Abertawe ney wedi bod gyda ni ers tro, mae cofrestru gyda meddyg teulu lleol yn sicrhau y gallwch chi gael help yn gyflym os ydych chi’n sâl, a chael cymorth.

Mae yna lawer o opsiynau meddygfeydd meddygon teulu ar gael i fyfyrwyr Abertawe ac rydym yn gweithio’n agos gyda’r canlynol:

  • Canolfan Iechyd y Brifysgol, Abertawe
  • Canolfan Feddygol SA1
  • Canolfan Iechyd Glannau’r Harbwr

Gallwch hefyd ddod o hyd i’ch meddyg teulu agosaf a chofrestru ar-lein trwy wefan y GIG.

Arwyddion a symptomau llid yr ymenydd a septisemia

Gofynnir i fyfyrwyr yn Abertawe fod yn ymwybodol o arwyddion a symptomau llid yr ymennydd, oherwydd gall yr haint arwain at ganlyniadau difrifol iawn. Gall pen tost, twymyn, chwydu, gwddf anystwyth, teimlo’n gysglyd, casáu goleuadau llachar, weithiau gyda brech nad yw’n diflannu pan bwysir arni â gwydr, i gyd fod yn arwyddion o haint bacterol meningococol, sy’n gallu arwain at heintiau difrifol fel sepsis. Gall fod yn anodd gweld clefyd meningococol ar y dechrau oherwydd bod y symptomau cynnar yn debyg i’r ffliw.

Llid yr ymennydd

  • Tymheredd uchel
  • Taflu i fyny
  • Cur pen difrifol
  • Gwddw stiff
  • Ddim yn hoffi golau llachar
  • Dryswch / deliriwm
  • Cysglyd eithriadol / cael anhawster cerdded

Septisemia

  • Tymheredd uchel
  • Taflu i fyny
  • Cleisio / brech
  • Anadlu’n gyflym
  • Poen yn y cymalau / cyhyrau
  • Dryswch / deliriwm
  • Cysglyd eithriadol / cael anhawster cerdded

Os byddwch chi neu ffrind yn datblygu symptomau, ceisiwch am gyngor meddygol ar unwaith.

Cysylltwch â’ch meddyg teulu neu GIG 111 am arweiniad.

Os bydd y symptomau’n gwaethygu, ewch i’r adran argyfwng neu ffoniwch 999 am gymorth meddygol brys. Gall triniath brydlon achub bywydau.

Rhowch wybod iddynt eich bod wedi derbyn y llythyr hwn.

Galw Iechyd Cymru – 0845 46 47 (24 awr)

Meningitis Now – 0808 80 10 388 (24 awr)