Wrth i seiber droseddwyr ddod yn fwy soffistigedig, mae’n bwysig bod yn ymwybodol o’r wahanol fathau o fygythiadau sy’n bodoli, a pha gamau gweithredu y gallwch eu cymryd i leihau’r risg hon.
Hoffwn eich atgoffa i beidio byth â rhannu eich manylion personol dros y ffôn a sicrhau eich bod yn cymryd camau syml i osgoi bod yn ddioddefwr ymosodiad seiber.
Rydym wedi cael ein rhybuddio am y posibilrwydd o ymosodiadau llais-rwydo sy’n targedu myfyrwyr. O ganlyniad, rydym yn gofyn i chi fod yn ymwybodol o’r mater hwn, ac i fod yn wyliadwrus wrth wneud galwadau ffôn i rifau nad ydych yn eu hadnabod, ac wrth dderbyn galwadau oddi wrthynt.
Beth yw llais-rwydo?
Mae llais-rwydo yn fath o we-rwydo sy’n cynnwys cyfathrebu gan ddefnyddio’r llais. Gall galwadau ffôn llais-rwydo fod yn alwadau gan berson go iawn neu’n alwadau sydd wedi eu recordio o flaen llaw, pan fydd seiber droseddwyr yn defnyddio tactegau lleisiol i dwyllo dioddefwyr i gymryd camau gweithredu penodol sy’n rhoi eu data personol mewn perygl. Er enghraifft rhannu manylion personol ac ariannol megis rhifau cyfrifon banc a chyfrineiriau.
Er bod llais-rwydo’n achosi bygythiadau, mae ffyrdd o’i atal rhag digwydd, gan gynnwys:
· Peidiwch byth â rhannu eich data personol. Peidiwch byth â rhannu cyfrineiriau, enwau mewngofnodi, neu fanylion trwydded yrru neu basbort dros y ffôn. Ceisiwch osgoi rhannu gwybodaeth sensitif dros y ffôn, yn enwedig os nad ydych yn gwybod pwy sy’n ffonio.
· Gwrandewch ar yr iaith. Gwrandewch yn ofalus ar y person sy’n ffonio a sylwch a yw’n defnyddio iaith beiriannu gymdeithasol sy’n rhoi ymdeimlad o ofn neu frys, megis rhoi pwysau arnoch i achub ar “gyfle unwaith mewn bywyd”.
· Byddwch yn amheus o alwadau ffôn na ofynnwyd amdanynt. Os ydych yn amau bod galwad yn ymosodiad llais-rwydo, rhowch y ffôn i lawr ar unwaith. Peidiwch ag ateb eu cwestiynau na gwasgu unrhyw fotymau. Peidiwch â cheisio eu herio oherwydd gall sgamwyr recordio eich ymatebion er mwyn cael mynediad at ddewislenni sydd wedi’u hysgogi gan lais.
· Sgriniwch eich galwadau’n ofalus. Os nad ydych yn adnabod rhif, gadewch i’r alwad fynd i’r lleisbost. Bydd rhai sgamwyr yn twyllo eich ffôn gan wneud iddo feddwl bod yr alwad yn dod o leoliad cyfagos ac wrth ffynhonnell onest. Os ydych eisiau ateb neges sydd wedi’i gadael ar y lleisbost, ymchwiliwch y rhif yn gyntaf, neu chwiliwch am rif cyswllt neu gyfeiriad e-bost swyddogol a chadarnhewch unrhyw wybodaeth y gwnaethon nhw ei darparu.
Beth gallaf ei wneud os ydw i wedi bod yn ddioddefwr ymosodiad llais-rwydo?
Os ydych wedi bod yn ddioddefwr unrhyw fath o ymosodiad seiber gan gynnwys llais-rwydo, cofnodwch ef fel digwyddiad seiber drwy greu tocyn ServiceNow gyda’r Gwasanaethau Digidol, fel y gall gael ei adrodd i’r Tîm Seiber a fydd yn medru delio ag ef.