A oes gen ti ddiddordeb mewn gwella dy yrfa academaidd gyda ni yn Abertawe?
Newyddion gwych! Gelli di gadw lle nawr ar gyfer ein Ffeiriau Gwybodaeth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig. Dyma gyfle gwych i ddysgu mwy am:
- Ein cyrsiau ôl-raddedig
- Pa gyllid sydd ar gael
- Ein cyfleoedd ymchwil
- Sut gallwn dy helpu i wireddu dy nodau gyrfa.
Dere i un o’n Ffeiriau Gwybodaeth i Fyfyrwyr Ôl-raddedig i gwrdd â’n hacademyddion, ein myfyrwyr ôl-raddedig presennol, ein tîm Derbyn Myfyrwyr a’n Gwasanaethau Myfyrwyr. Mae gennym ddigwyddiadau’n cael eu cynnal ar draws y ddau gampws.