Mae UPP yn bwriadu cynnal gwaith brys i osod boeler newydd ym mlociau preswyl Llywelyn Fawr ac Ewlo ar Gampws y Bae.
Rhagwelir cynnal y gwaith ar 20 Chwefror ond bydd y dyddiad hwn yn symud i 21 Chwefror os bydd gwyntoedd cryf yn oedi’r gwaith. I hwyluso’r gwaith, bydd rhan o Ffordd Severn, sef y ffordd o flaen Tafarn Tawe, Tesco a’r Guddfan etc. yn cael ei chau i draffig a cherddwyr rhwng 8am a chanol dydd – gweler y cynllun isod.
Sylwer y bydd craen ar y safle ac, yn ystod yr ail godiad, rhwng tua 9am a 10am, ni fydd mynediad i gerddwyr i Dafarn Tawe, Tesco neu Subway.
Bydd ein Tîm o Swyddogion Diogelwch ac Ymateb Campws ar y safle i helpu i reoli’r gwaith o gau’r ffordd ac, yn ystod y cyfnod hwn, bydd y bysiau’n casglu ac yn gollwng teithwyr y tu allan i’r campws ar y brif ffordd.
Os oes gennych chi ymholiadau neu bryderon ynghylch y gwaith, e-bostiwch: grant.adams@upp-ltd.com/ 01792954503