Rydym yn falch o gyhoeddi y bydd Gŵyl Ymchwil Ôl-raddedig Prifysgol Abertawe yn cael ei chynnal drwy gydol mis Mai.
Bydd yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig yn tynnu sylw at waith ein cymuned YOR ac yn dathlu’r cyfraniad eithriadol y mae myfyrwyr PGR yn ei wneud i’r brifysgol.
Uchafbwynt yr ŵyl yw’r Digwyddiad Arddangos Ymchwil Ôl-raddedig blynyddol, a gynhelir yn Taliesin ar 21 Mai ac sy’n cynnwys rownd derfynol y gystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT), digwyddiad posteri a’r Gwobrau Ymchwil Ôl-raddedig. Mae hefyd yn gyfle i gwrdd ag ymchwilwyr ôl-raddedig eraill a staff o bob rhan o’r Brifysgol. Yn 3MT, bydd ein hymchwilwyr ôl-raddedig gorau a mwyaf dawnus ar draws y tair cyfadran yn rhannu eu pynciau ymchwil mewn dim ond tair munud, a dim ond un sleid fydd ganddynt i’w helpu!
Bydd pob cyfadran yn cynnal ei chynhadledd ymchwil ôl-raddedig ei hun yn ystod yr ŵyl, gan roi’r cyfle i ymchwilwyr ôl-raddedig gael profiad o gyflwyno eu hymchwil a’i rhannu â’u cyfoedion ac academyddion. Anogir ymchwilwyr ôl-raddedig a staff i fynd i sesiynau ar draws pob un o’r cynadleddau er mwyn cael cyfle i ddarganfod mwy am y gwaith ymchwil rhagorol sy’n cael ei wneud yn ein holl ddisgyblaethau.
Cyfadran y Dyniaethau a’r Gwyddorau Cymdeithasol: 12-13 Mai
Y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg: 15 Mai
Y Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd: 19-20 Mai
Further events taking place across the month of May will be announced in the coming months.
Sut i gymryd rhan
Rydym yn gwahodd staff ac ymchwilwyr ôl-raddedig ledled y Brifysgol i helpu i lywio’r ŵyl ymchwil ôl-raddedig drwy gynnal eich digwyddiadau a’ch gweithgareddau eich hun.
Os oes digwyddiad yr hoffech ei gynnal fel rhan o’r Ŵyl PGR, neu os ydych eisoes yn cynnal digwyddiad yr hoffech ei gynnwys yn llinell yr ŵyl, llenwch ffurflen y digwyddiad erbyn y 28 Chwefror
Unrhyw gwestiynau am yr Ŵyl Ymchwil Ôl-raddedig, anfonwch e-bost at postgraduate-research@swansea.ac.uk