Rydym wrth ein bodd ein bod wedi cael ein rhestru’r gorau yng Nghymru ac ymhlith y 50 uchaf ar gyfer ‘Profiad Waith Gorau Prifysgolion’.
Llongyfarchiadau mawr i bob un ohonoch a gymerodd brofiad gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ac a adawodd adolygiad i ni, gan fod y wobr hon yn seiliedig ar adolygiadau myfyrwyr yn unig. Diolch.
Rydym yn gobeithio eich bod i gyd wedi cael profiad gwerth chweil a boddhaus gyda’ch lleoliadau dewisol, a’ch bod wedi datblygu sgiliau gwerthfawr yn y gweithle a fydd yn gwella eich CV ac yn helpu eich gyrfaoedd yn y dyfodol.
Os ydych chi’n bwriadu cymryd eich camau gyrfa cyntaf ac nad ydych yn siŵr ble i edrych a beth i’w wneud, beth am edrych ar SEA a’r cynllun Cyfradd Fy Lleoliad.