Mae’n Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar 5 Mawrth. Dyma ychydig o ddigwyddiadau y gallwch eu mynychu.

Menywod ar Garlam: Llwyddiant ym Myd Busnes a Thu Hwnt

13:00, Dydd Mercher 5 Mawrth – Darlithfa Wallace, Campws Parc Singleton Prifysgol Abertawe

Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn dathlu cyflawniadau cymdeithasol, economaidd, diwylliannol a gwleidyddol menywod. Yn ymroddedig i gyflymu cydraddoldeb i fenywod, mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod hefyd yn alwad fyd-eang i weithredu er mwyn lobïo am gydraddoldeb rhwng y rhywiau.

Ymunwch â ni ar 5 Mawrth am 1pm yn Narlithfa Wallace ar Gampws Singleton i wrando ar y canlynol Louise Rengozzi The Cusp, Hannah Worth Bowla, Crystal Jukes She Thrives Collective, Youmna Mouhamad Nyfasi
wrth iddynt siarad am eu profiadau o fod ar flaen y gad gan lwyddo a datblygu ym myd busnes, menter a bywyd.

Archebwch eich lle yma.

Digwyddiadau Ysgol Reolaeth – yn agored i’r holl fyfyrwyr

11.00am – 12.30pm – ystafell MBA

Bore coffi i staff a myfyrwyr, cyfle i rannu straeon ysbrydoledig a grymusol.

10.00am – 17.30pm – SOM Atrium

Rhannwch eich syniadau pwerus ac ysbrydoledig ar sut y byddwn yn helpu i greu cydraddoldeb menywod trwy ddefnyddio’r stondin ryngweithiol sy’n cael ei harddangos y tu allan i’r Swyddfa Gwybodaeth i Fyfyrwyr. Mae templedi i’w cwblhau ac yn rhad ac am ddim i’r rhai sy’n cymryd rhan.

1.30 – 3.00pm – SOM011

Bydd un o’n myfyrwyr PGT ym mis Ionawr yn arwain dosbarth celf. Mae hi’n athrawes yn ei mamwlad ac yn awyddus i rannu ei sgiliau a gwella profiad ein myfyrwyr. Bydd y dosbarthiadau’n rhedeg dros sawl wythnos.

Bydd staff a myfyrwyr yn cael eu hannog i wisgo rhywbeth porffor ar y diwrnod i gefnogi IWD, a bydd perfformiadau cerddorol hefyd ar y diwrnod gan fyfyrwyr ysgoloriaethau cerddoriaeth.