Mae Cyngor Abertawe newydd roi gwybod i ni, oherwydd gwaith cynnal a chadw brys i’r rhwystr bysiau rhwng y Brifysgol ac Ysbyty Singleton, y bydd y ffordd rhwng yr ysbyty a champws Singleton ar gau rhwng 08:30 a 13:15 yfory ddydd Gwener 28 Chwefror.
Mae First Bus wedi dweud na fydd gwasanaethau’n mynd trwy dir yr ysbyty yn ystod y cyfnod hwnnw.
Gwasanaethau 3A, 4 a 91
Bydd y 3A, 4 a 91 yn mynd â’r llwybr arferol i/o’r campws hyd at 08:30, ac yna o 08:30 – 13:15, byddant yn colli tir yr ysbyty.
Mae First hefyd wedi cadarnhau, yn ystod y gwaith, y bydd y gwasanaethau hynny’n mynd i mewn / allan Campws Singleton drwy’r brif fynedfa, gan stopio wrth y safleoedd bysiau arferol.
Ni fydd 14, 43 a 116 Adventure Travel, a 53 DANSA yn mynd i mewn i’r campws yn ystod y cyfnod cau.
Ar ran Cyngor Abertawe, rydym yn ymddiheuro am yr hysbysiad hwyr ac unrhyw darfu a achoswyd.
Ystadau a Gwasanaethau Campws