Oes gennych chi syniad gwych? Syniad busness nad oes neb wedi meddwl amdano o flaen, neu syniad cynnyrch y gallai’r masau ei garu!?
Dyma eich cyfle euraidd i gyflwyno eich syniad i banel o arbenigwyr diwydiant mewn 3 munud, gydag un enillydd lwcus yn cael:
- Cyllid busnes gwerth hyd at £3000
- Lle ar Sesiwn Hyfforddi Busnes
- Mentora
- Mynediad at y Launchpad
- Cyngor a chymorth ar gyfer dechrau busnes.
Cynhelir Y Cynnig Mawr ddydd Mercher 19 Mawrth 2025
Pam mae’r digwyddiad hwn yn defnyddiol?
Mae cystadlaethau cyflwyno syniadau’n cynnig cyfle i fusnesau newydd gael adborth uniongyrchol a gonest gan arbenigwyr y diwydiant. Gall adborth gwerthfawr gan ein panel o feirniaid helpu entrepreneuriaid i feddwl yn fwy strategol am y cyfeiriad y maen nhw’n ei gymryd, ac mae’n rhoi cipolwg ar yr hyn y mae buddsoddwyr cyfalaf menter yn chwilio amdano mewn busnes buddugol!