Mae’r neges ganlynol ar gyfer sylw:
- Carfan Medi 2023 a addysgir gan fyfyrwyr ôl-raddedig a gyflwynodd eu Dysgu Annibynnol dan oruchwyliaeth ym mis Rhagfyr 2024.
- Carfan Ionawr 2024 lle mae myfyrwyr ôl-raddedig yn aros am ganlyniadau.
Os nad wyt ti’n siŵr a wyt ti yn y categori hwn, gwiria gyda’th Ysgol/Gyfadran.
Caiff dy ganlyniadau eu cyhoeddi ar dygyfrif myfyriwr ar y fewnrwyd o 4 Mawrth 2025 am 10AM.
Bydd yr wybodaeth ganlynol yn ymddangos ar y sgrîn ‘Modiwlau 2024’:
- Y modiwlau a ddilynwyd a’r marciau a gyflawnwyd.
- Y penderfyniad ynghylch dy ddyfarniad/dilyniant.
- Esboniad o’th benderfyniad academaidd a gwybodaeth bellach.
Os cei di anawsterau wrth fewngofnodi i’th gyfrif myfyriwr ar y Fewnrwyd, cysyllta â’r Ddesg Wasanaeth TG.
Ymholiadau
Os oes gennyt ymholiadau ynghylch dy benderfyniad/ganlyniadau academaidd, fe’th gynghorir i gysylltu â’th Ysgol/Gyfadran.
Apeliadau Academaidd
Os hoffet ti apelio yn erbyn dy benderfyniad, mae canllawiau llym. Ceir rhagor o wybodaeth am y Weithdrefn Apeliadau Academaidd yma.
Trawsgrifiadau Academaidd
Gelli di gyrchu dy Drawsgrifiad Academaidd swyddogol drwy dy gyfrif myfyriwr ar y Fewnrwyd, ceir y botwm ‘Trawsgrifiad’ o dan y tab ‘Manylion y Cwrs’ ar yr ochr dde.
Bydd myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu hastudiaethau hefyd yn gallu gweld eu trawsgrifiad a’u Hadroddiad Cyrhaeddiad Addysg Uwch (HEAR) ar eu cyfrif Gradintel.
Gelli di weld/actifadu dy gyfrif Gradintel drwy dy Gyfrif MyUni – os oes gennyt ymholiadau, cysyllta ag aelod o’r tîm a fydd yn gallu dy helpu di.
Graddio
Bydd y Swyddfa Raddio’n cysylltu â’r holl fyfyrwyr perthnasol sydd wedi derbyn dyfarniad i roi rhagor o wybodaeth am dystysgrifau gradd. Darllena’r tudalennau gwe Graddio am wybodaeth benodol am Seremonïau Graddio’r Gaeaf. Os bydd di’n graddio yn dy absenoldeb, caiff dy dystysgrif gradd ei hanfon i’th gyfeiriad cartref o fewn 8 wythnos i’r canlyniad gael ei gyhoeddi.
Ni ellir datgelu canlyniadau dros y ffôn na thrwy e-bost.
Myfyrwyr Rhyngwladol
Dylai’r holl fyfyrwyr sydd â fisa drwy’r Llwybr Myfyrwyr (neu Haen 4) fynd i’r dudalen sy’n rhoi gwybodaeth am fewnfudo ar ôl derbyn canlyniadau. Bydd hyn yn helpu i esbonio unrhyw oblygiadau o ran fisa a/neu weithgarwch cysylltiedig y gall fod ei angen (gan gynnwys drwy’r Llwybr Graddedigion).
Gweler hefyd y dudalen we sy’n rhoi gwybodaeth am Lwybr Graddedigion y Du i gael arweiniad ychwanegol ar amseriadau, cymhwysedd a’r broses cyflwyno cais am fisa.