Ar hyn o bryd mae system wresogi’r ardal i lawr oherwydd gollyngiad dros y penwythnos. Mae hyn yn effeithio ar nifer o adeiladau ar Gampws Parc Singleton:

  • Keir Hardie
  • Llyfrgell
  • Tŵr Faraday
  • Talbot
  • Wallace
  • Margam
  • Glyndŵr
  • Vivian
  • Gwyddor Data
  • Grove
  • Tŷ Fulton
  • Preswylfeydd Myfyrwyr
  • Sefydliad Gwyddor Bywyd 2

Rydym am sicrhau ein bod yn gweithio’n agos gyda’n contractwyr i fynd i’r afael â’r mater a sicrhau bod y gwres yn cael ei adfer yn y mannau yr effeithir arnynt cyn gynted â phosibl.

Ymddiheurwn yn ddiffuant am unrhyw anghyfleustra a achoswyd ac rydym yn diolch i chi am eich amynedd a’ch dealltwriaeth barhaus.

Ystadau a Gwasanaethau Campws