Mae’r Royal National Institute of Blind people (RNIB) yn ymweld â llyfrgelloedd cyhoeddus a llyfrgelloedd sefydliadau addysg uwch ym Mhrydain i ddathlu 200 mlynedd o Braille ac maen nhw’n dod i Lyfrgell Campws Singleton ac Ystafell y Rhodfa Taliesin ddydd Mawrth 25 Mawrth, rhwng 10am a 3pm.

Mewn cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe, yr RNIB, RNIB Cymru, Llyfrgell Gyhoeddus Abertawe (y Cyngor) a Llyfrgell Ysbyty Singleton, nod y digwyddiad yw arddangos perthnasedd a phwysigrwydd braille a chynyddu ymwybyddiaeth o’r defnyddiau niferus sydd ganddo o hyd.

Mae croeso i chi ymuno â’r digwyddiad a gallwch alw heibio ar adegau sy’n gyfleus i chi, nid oes angen i chi gofrestru, felly dewch â’ch ffrindiau ar gyfer diwrnod diddorol a hwylus.

Mae rhai o uchafbwyntiau’r digwyddiad yn cynnwys:

  • Dysgwch Braille sylfaenol wrth olwg mewn 30 munud.
  • Archwiliwch a darganfyddwch briciau LEGO Braille.
  • Rydym wedi cael cadarnhad mai Anne Wilkins fydd y prif siaradwr a bydd hi hyd yn oed yn canu ar ein cyfer (efallai y byddwch chi wedi ei gweld hi ar y teledu.)

Gobeithiwn y gallwch chi ymuno â ni ar gyfer y garreg filltir arbennig hon ar gyfer cynwysoldeb.