Mae ein timau wedi bod yn gweithio’n galed i adfer y gwres ar Gampws Singleton yn dilyn gollyngiad yn y system wresogi leol dros y penwythnos.
Mae hwn yn waith atgyweirio cymhleth, ond rydym yn gwneud cynnydd da a’n gobaith yw y bydd y gwres yn ôl mewn adeiladau ar ochr ddwyreiniol ac ochr orllewinol y campws heddiw.
Dylai’r gwres fod yn gweithio yn y rhan fwyaf o’r adeiladau eraill cyn diwedd yr wythnos.
Pan fydd wedi’i hatgyweirio, gall y system gymryd amser i sefydlogi a gwresogi pob ardal yn llawn.