Mae Parc Chwaraeon Bae Abertawe yn cymryd rhan yn Wythnos Agored y Loteri Genedlaethol er mwyn dangos ei werthfawrogiad i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol am wneud Pwll Cenedlaethol Cymru yn realiti!

O 15 i 23 Mawrth 2025, gallwch gael mynediad am ddim i gyfleusterau Parc Chwarae Bae Abertawe gyda thocyn loteri neu gerdyn crafu dilys.

Manteisiwch ar y cyfle i ddefnyddio’r gampfa neu nofio yn y pwll am ddim, ond dim ond yn ystod yr wythnos arbennig hon!

Cofrestrwch ar-lein fel defnyddiwr ‘talu wrth fynd’ cyn i chi ymweld. Bydd hyn yn ein helpu i brosesu eich manylion yn gynt pan fyddwch yn cyrraedd.

Am ragor o wybodaeth, gan gynnwys ein horiau agor, ewch i’n gwefan.