Mae dy amserlen raddio bellach ar gael i’w gweld. Mae rhestrau manwl sy’n benodol i bynciau hefyd ar gael. A wnei di dreulio amser yn ymgyfarwyddo â’r amserlen ac, yn bwysicaf oll, cadwa’r dyddiad!

Cynhelir dy seremoni raddio yn Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau amlbwrpas mwyaf newydd a chyffrous yn ne Cymru.

Beth Nesaf?

Am y tro, does dim angen i ti wneud unrhyw beth. Caiff yr holl wybodaeth angenrheidiol a chamau gweithredu gofynnol yn y dyfodol eu rhannu â thi (drwy e-bost) yn ystod y cyfnod cyn y seremoni.

Fodd bynnag, cofiwch y bydd archebu ar-lein ar gyfer eich graddio yn agor ym mis Ebrill, ond peidiwch â phoeni, byddwn yn cysylltu â chi pan ddaw’r amser!

Wyt ti’n ansicr beth i’w ddisgwyl? Cymera gip ar ein halbymau a’n fideos o’n seremonïau graddio diweddaraf.

Er dy fod ti wedi cael dy wahodd yn amodol i ddod i’r seremoni raddio yr haf hwn, sylwer bod yn rhaid i ti gwblhau dy raglen astudio’n llwyddiannus ac na ddylai fod gennyt ti

unrhyw ddyledion i’r Brifysgol er mwyn graddio. Os na fyddi di’n bodloni’r meini prawf hyn, ni fyddi di’n cael dod i’r seremoni raddio yr haf hwn. Yn unol â’r uchod, caiff yr holl wybodaeth angenrheidiol a chamau gweithredol gofynnol yn y dyfodol eu rhannu â thi drwy e-bost yn ystod y cyfnod cyn y seremoni. Fodd bynnag, os bydd angen i ti gysylltu ag aelod o’r Tîm Graddio, mae croeso i ti wneud hynny.