Mae eich Llyfrgell bob amser yn ceisio gwella ei hadnoddau i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i chi. Mae eich adborth ar y llyfrgell yn werthfawr iawn wrth ein helpu i lywio’r newidiadau hyn felly diolch o galon am ein helpu i wella ein gwasanaethau.

Rydyn ni’n deall bod defnyddio a dod o hyd i adnoddau digidol sy’n berthnasol i’ch astudiaethau yn hanfodol i’ch dysgu. Yn ogystal â chynyddu’r adnoddau hyn, rydyn ni hefyd yn gwneud yn siŵr eu bod yn fwy hygyrch i chi. Er enghraifft, mae Browzine yn adnodd am ddim lle gallwch chi gyfyngu eich chwiliad i faes pwnc, cadw eich adnoddau i restr o’r enw ‘silff lyfrau’ a’u trefnu’n ‘silffoedd’ unigol – gallwch chi wneud hyn ar gyfer pwnc aseiniad, pwnc modiwl, darllen achlysurol etc. Defnyddiwch yr adnodd hwn sut bynnag yr hoffech! Dyma ganllaw fideo am sut i’w ddefnyddio.

Rydyn ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau digidol i chi allu dod o hyd i ddeunyddiau’n haws, gan gynnwys y Libkey Nomad Browser extension. Lawrlwythwch yr estyniad a phan fyddwch chi’n chwilio am adnoddau ar-lein, bydd yn cysylltu adnoddau ein llyfrgell ag erthyglau ysgolheigaidd yn PubMed, Wikipedia a channoedd o wefannau cyhoeddwyr ysgolheigaidd.

I gael mwy o gymorth gydag adnoddau ar-lein, siaradwch â staff y llyfrgell a byddwn yn falch iawn o helpu.

Hoffen ni bwysleisio unwaith eto: rydyn ni wir yn dibynnu ar eich adborth i roi’r newidiadau hyn ar waith. Os oes gennych chi unrhyw sylwladau, mae Arolygon Mawr Abertawe bellach ar agor tan 30 Ebrill 2025. Gobeithiwn fod y diweddariadau hyn yn ddefnyddiol i chi!