Mae eich Llyfrgell bob amser yn ceisio gwella ei hadnoddau i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i chi. Mae eich adborth ar y llyfrgell yn werthfawr iawn wrth ein helpu i lywio’r newidiadau hyn felly diolch o galon am ein helpu i wella ein gwasanaethau.
Un o’r meysydd rydyn ni’n canolbwyntio ar eu gwella yw eich mynediad at adnoddau academaidd ar ffurf eich rhestrau darllen.
I helpu gyda hyn, rydyn ni’n gweithio’n agos gyda’ch darlithwyr i gadw rhestrau darllen eich modiwlau’n gyfredol ac i wella a chyfoethogi’ch profiad dysgu.
Os yw eich darlithwyr yn gofyn am lyfr neu gyfnodolyn byddwn ni’n sicrhau ei fod ar gael i chi naill ai drwy gopïau caled neu fel adnodd ar-lein. Does dim angen teimlo dan straen na thalu’n ychwanegol i gael yr hyn sydd ei angen arnoch chi!
Hoffen ni bwysleisio unwaith eto: rydyn ni wir yn dibynnu ar eich adborth i roi’r newidiadau hyn ar waith. Os oes gennych chi unrhyw feddyliau am bethau hoffech chi eu gweld yn y Llyfrgell, mae Arolygon Mawr Abertawe bellach ar agor tan 30 Ebrill 2025. Llenwch nhw: lleisiwch eich barn. Gobeithiwn fod y gwelliannau hyn yn ddefnyddiol i chi!