Rydyn ni wedi gwneud newidiadau i wella ein gwasanaeth a’i gwneud hi’n haws fyth i ti gael y cymorth y mae ei angen arnat ti.

Mae Arian@BywydCampws wedi newid i Cyngor Ariannol, ac mae’r newidiadau’n golygu y bydd gennyn ni fwy o amser i ddarparu cyngor ac arweiniad wedi’u teilwra i fyfyrwyr. Ond paid â phoeni, rydyn ni yr un mor gyfeillgar ag erioed, yma i’th gefnogi di!

Sut i gysylltu â ni

Gelli di gysylltu â ni drwy sgwrs fyw neu e-bost am gymorth. Hefyd, mae gennyn ni fewnflwch newydd erbyn hyn moneyadvice@abertawe.ac.uk.

Cyn cysylltu â ni, efallai y byddi di am ddarllen ein Cwestiynau Cyffredin ynghylch datrys problemau, sy’n seiliedig ar y cwestiynau mwyaf cyffredin gan fyfyrwyr. Os na elli di ddod o hyd i’r ateb yno, mae pob croeso i ti gysylltu â ni — rydyn ni yma i ti!