Mae eich Llyfrgell bob amser yn ceisio gwella ei hadnoddau i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i chi. Mae eich adborth ar y llyfrgell yn werthfawr iawn wrth ein helpu i lywio’r newidiadau hyn felly diolch o galon am ein helpu i wella ein gwasanaethau.
Rydyn ni’n deall pa mor brysur gall bywyd myfyriwr fod, ac yn aml byddwn ni’n dangos i chi sut i ddefnyddio’r llyfrgell ar ddechrau’r flwyddyn pan efallai na fydd angen i chi ei defnyddio tan yn hwyrach yn y flwyddyn academaidd, neu ar ôl diwedd gwyliau’r haf ac rydych chi wedi anghofio sut i ddefnyddio’r llyfrgell.
O ganlyniad, mae gennym galendr digwyddiadau sy’n llawn rhaglenni sgiliau llythrennedd drwy gydol y flwyddyn i addysgu popeth sydd ei angen arnoch chi neu i brocio’ch cof.
Mae’r sesiynau hyn, ac enwi ychydig yn unig, yn cynnwys teithiau o Lyfrgelloedd Singleton a Champws y Bae, sut i gyfeirnodi yn arddull APA, sut i ddefnyddio iFind i ddod o hyd i’r adnoddau mwyaf perthnasol a llawer mwy.
Dyma’r ddolen i’r calendr digwyddiadau, gan gynnwys manylion am ddyddiadau, amserau, lleoliadau ac a oes angen i chi gadw lle ymlaen llaw neu ddim ond galw heibio ar y dydd.
Hoffen ni bwysleisio unwaith eto: rydyn ni wir yn dibynnu ar eich adborth i roi’r newidiadau hyn ar waith. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, mae Arolygon Mawr Abertawe bellach ar agor tan 30 Ebrill 2025. Gobeithiwn fod y diweddariadau hyn yn ddefnyddiol i chi!