Mae eich Llyfrgell bob amser yn ceisio gwella ei hadnoddau i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i chi. Mae eich adborth ar y llyfrgell yn werthfawr iawn wrth ein helpu i lywio’r newidiadau hyn felly diolch o galon am ein helpu i wella ein gwasanaethau

Rydyn ni wedi cynyddu ein lleoedd, yn enwedig yn Llyfrgell Campws y Bae, i sicrhau bod gennych ragor o fannau astudio modern er mwyn i ni allu cynnig man astudio sy’n addas i chi, hyd yn oed yn ystod yr oriau prysuraf.

Rydyn ni hefyd yn gwybod pa mor anodd gall dod o hyd i bethau yn y llyfrgell fod os nad ydych chi’n gyfarwydd â’r lle. Dyna pam rydyn ni’n gwella ein cyfeiriadau drwy roi arwyddion newydd o gwmpas y llyfrgell.

Hoffen ni bwysleisio unwaith eto: rydyn ni wir yn dibynnu ar eich adborth i roi’r newidiadau hyn ar waith. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, mae Arolygon Mawr Abertawe bellach ar agor tan 30 Ebrill 2025. Gobeithiwn fod y diweddariadau hyn yn ddefnyddiol i chi!