Mae eich Llyfrgell bob amser yn ceisio gwella ei hadnoddau i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i chi. Mae eich adborth ar y llyfrgell yn werthfawr iawn wrth ein helpu i lywio’r newidiadau hyn felly diolch o galon am ein helpu i wella ein gwasanaethau.
Mae pum maes rydyn ni’n gweithio i’w gwella yn cynnwys:
Gwell cyfathrebu rhwng llyfrgellwyr a’ch darlithwyr i gael deunyddiau darllen ar gyfer eich modiwlau.
Cael mwy o feddalwedd trwyddedu digidol i’ch galluogi i fireinio eich chwiliadau academaidd mwy.
Cynyddu ein Rhaglenni Sgiliau Llyfrgell a’u teilwra er eich lles chi.
Gwella effeithlonrwydd y gofod i ddarparu ar gyfer mwy o ddefnyddwyr ar yr adegau prysuraf.
Arwyddion newydd sbon ar gyfer ardaloedd â lefelau sŵn gwahanol.
Hoffen ni bwysleisio unwaith eto: rydyn ni wir yn dibynnu ar eich adborth i roi’r newidiadau hyn ar waith. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, mae Arolygon Mawr Abertawe bellach ar agor tan 30 Ebrill 2025. Gobeithiwn fod y diweddariadau hyn yn ddefnyddiol i chi!