Mae eich Llyfrgell bob amser yn ceisio gwella ei hadnoddau i’w gwneud yn fwy hygyrch a pherthnasol i chi. Mae eich adborth ar y llyfrgell yn werthfawr iawn wrth ein helpu i lywio’r newidiadau hyn felly diolch o galon am ein helpu i wella ein gwasanaethau.

Rydyn ni wedi creu tri math o ardal i fodloni dewisiadau astudio gwahanol: Lleoedd cydweithredol ar gyfer gwaith grŵp, lleoedd tawel ar gyfer canolbwyntio ar astudio lle nad oes llawer i dynnu’ch sylw, a lleoedd distaw i’r rhai sydd angen canolbwyntio’n llwyr. Mae ein staff bob amser ar gael i’ch helpu i gael y lle mwyaf addas i’ch anghenion.

Rydyn ni wedi gwella arwyddion y lleoedd hyn yn Singleton ac rydyn ni wrthi’n gwneud yr un peth ar Gampws y Bae.

Wrth siarad am arwyddion, rydyn ni hefyd yn llunio mapiau ar gyfer pob llawr i ddangos yn glir pa lefelau sŵn sy’n berthnasol i ba fannau astudio.

Hoffen ni bwysleisio unwaith eto: rydyn ni wir yn dibynnu ar eich adborth i roi’r newidiadau hyn ar waith. Os oes gennych chi unrhyw sylwadau, mae Arolygon Mawr Abertawe bellach ar agor tan 30 Ebrill 2025. Gobeithiwn fod y diweddariadau hyn yn ddefnyddiol i chi!