Ym Mhrifysgol Abertawe rydym yn ymrwymedig i hyrwyddo cymuned gynhwysol, wrth-hiliol, lle mae’r holl fyfyrwyr ac aelodau staff yn teimlo wedi’u gwerthfawrogi a’u cefnogi.
Fel rhan o’n gwaith parhaus tuag at gydraddoldeb hil ac yn unol â’n hymrwymiad i’r Siarter Cydraddoldeb Hiliol, rydym yn falch o gydnabod Diwrnod Rhyngwladol Dileu Gwahaniaethu Hiliol ar 21 Mawrth 2025.
I nodi’r diwrnod pwysig hwn, rydym yn annog myfyrwyr i gwblhau Cwrs Gwrth-hiliaeth y Brifysgol, a ddatblygwyd gan fyfyrwyr ar gyfer myfyrwyr gan ddefnyddio’r ddolen hunan-gofrestru hon – Enrol in NAC – Anti-racism Course. Mae’r cwrs ar-lein hunangyfeiriedig hwn ar Canvas yn darparu cyfle i ddyfnhau eich dealltwriaeth o hil, hiliaeth, a gwrth-hiliaeth.
Trwy gwblhau’r cwrs bydd myfyrwyr yn:
- Datblygu sgiliau meddwl yn feirniadol drwy gymryd rhan mewn trafodaethau ar hil, hiliaeth, a gwrth-hiliaeth
- Cryfhau eich ymwybyddiaeth ddiwylliannol a’ch sgiliau cyfathrebu rhyngddiwylliannol, y mae cyflogwyr yn eu gwerthfawrogi’n fawr
- Datblygu’r sgiliau i herio gwahaniaethu ac eirioli dros wrth-hiliaeth
- Derbyn tystysgrif gwblhau
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch ag Academi Cynwysoldeb Abertawe – inclusivity@abertawe.ac.uk