Gyda’r haul allan, mae Get ACTIVE yn cynnig mwy o gyfleoedd i chi fynd allan a mwynhau ein hamgylchedd prydferth.
Y mis hwn, mae Get ACTIVE wedi cyflwyno ‘Clwb rhedeg i ferched yn unig’ er anrhydedd i Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod. Mae’n cael ei gynnal bob dydd Iau, gyda’r tîm yn cyfarfod y tu allan i Fulton House am 5:15pm.
Does dim ots os ydych chi’n ddechreuwr llwyr neu’n athletwr profiadol – mae hyn yn ymwneud â dod â menywod ynghyd i rannu’r profiad hwn gyda’i gilydd. Cewch eich tocyn yma – https://university-swansea.native.fm/event/girls-only-run-club-20-march/250919
Mae gan Get ACTIVE hefyd weithgareddau cyffrous eraill ar y gweill, gan gynnwys:
- Sesiwn flasu pêl-korf
- Padlfyrddio
- Teithiau cerdded ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog
- Syrffio
- Ioga
- Go Ape ac Archwilio Parc Margam
- Golff
- Dringo creigiau dan do
- Teithiau cerdded ar Benrhyn Gŵyr
Os ydych chi’n chwilio am ffordd o greu atgofion newydd, cwrdd â phobl newydd a mwynhau’r awyr agored, edrychwch ar yr amrywiaeth o weithgareddau sydd ar gael yma – https://www.swansea-union.co.uk/whatson/?organisations=Get+Active