Ydych chi’n aelod o Chwaraeon Abertawe ac yn awyddus i ymuno â ni ar gyfer noson o ddathlu?

Ymunwch â ni yn Neuadd Brangwyn ddydd Gwener 6ed Mehefin, lle byddwn yn dathlu llwyddiant ein clybiau chwaraeon a’n hathletwyr yn ein Noson Wobrwyo Chwaraeon flynyddol.

Dyma noson na ddylech ei cholli – yn dathlu llwyddiant ein clybiau a’n hathletwyr, ynghyd â digon o adloniant!

Bydd ffurflenni enwebu’n cael eu rhyddhau ar 24ain Mawrth, gan roi cyfle i chi enwebu pwy yn eich barn chi sy’n haeddu ennill yn ein hamrywiaeth o gategorïau gwobrau!

Bydd tocynnau’n mynd YN FYW ddydd Gwener 14eg Ebrill, felly nodwch y dyddiad yn eich dyddiadur a pharatowch ar gyfer noson o ddathlu chwaraeon!