Sylwer na fydd y fewnrwyd nac E:vision ar gael ddydd Mawrth 1 Ebrill am 8 yb tan 8 yb ddydd Iau 3 Ebrill tra bod y gwasanaeth cofnodion myfyrwyr yn cael ei uwchraddio.

Mae hyn yn golygu hefyd na fyddwch yn gallu gweld eich cofnod myfyriwr na gofyn am newidiadau iddo, gweld eich statws ariannol yn y Brifysgol na gwneud taliadau ar-lein am ffioedd neu lety. 

Mae MyUniHub a thimau cymorth eraill yn dibynnu ar wasanaethau’r rhyngrwyd i ddarparu gwybodaeth a chyngor cywir i chi, felly gall colli’r gwasanaeth olygu na fyddwn yn gallu ateb rhai ymholiadau mor gyflym ag arfer. 

Bydd unrhyw ymholiadau na fyddwn yn gallu eu datrys o ddydd Mawrth 1 Ebrill yn cael eu cynnal tan ddydd Iau 3 Ebrill. Peidiwch ag ail-anfon eich e-bost oherwydd gall hyn ddyblygu gwaith ac arafu ymatebion gan y tîm.

Os oes gennych ymholiadau, e-bostiwch ITServiceDesk@swansea.ac.uk 

Mae Gwasanaethau TG yn ymddiheuro am unrhyw anghyfleustra a achosir.