Torriad Data Oracle Cloud Services
Rydym yn ymwybodol o adroddiadau diweddar yn y cyfryngau ynghylch torriad data sy’n effeithio ar Oracle Cloud Services. Ar hyn o bryd, nid ydym yn credu bod systemau Prifysgol Abertawe wedi’u heffeithio. Fodd bynnag, mae ein tîm seiber yn parhau i fonitro’r sefyllfa’n ofalus.
Os ydych wedi tanysgrifio’n uniongyrchol i Oracle Cloud Services neu Oracle Fusion fel rhan o’ch ymchwil neu weithgareddau gwaith, hoffem glywed gennych. Cysylltwch â Desg Wasanaeth TG ar 01792 604000 neu ar lein fel y gallwn eich hysbysu am unrhyw ddatblygiadau.
Cofion gorau,
Gwasanaethau Digidol.