Mae’r Gwasanaethau Digidol wedi dechrau mudo adeiladau Campws Singleton i rwydwaith newydd y Brifysgol a fydd yn cyflymu cysylltedd ac yn sicrhau y bydd y rhwydwaith yn fwy diogel ac yn fwy gwydn o ran diffygion.

Ar ôl mudo’r rhwydwaith yn Neuadd Beck yr wythnos nesaf, byddwn ni’n dechrau mudo neuaddau preswyl Campws Singleton yn ystod wythnos gyntaf mis Ebrill.

Bydd y gwaith mudo hwn yn amharu ar y rhwydwaith a’r gwasanaethau Wi-Fi yn lleol ym mhob adeilad am gyfnodau byr rhwng 2 a 3 awr ar y mwyaf ar y dyddiadau canlynol:

Dydd Mercher 26 a dydd Iau 27 Mawrth – Neuadd Beck

Dydd Mercher 2 a dydd Iau 3 Ebrill – Oxwich, Langland, Caswell, Dwyrain Rhosili a Gogledd Rhosili.

Dydd Mercher 9 a dydd Iau 10 Ebrill – Cilfái, Preseli a Chefn Bryn

Dydd Mawrth 15 a dydd Mercher 16 Ebrill Penmaen a Horton

Bydd dros 50 o adeiladau ar draws campysau Singleton a’r Bae yn mudo i’r rhwydwaith newydd yn ystod y misoedd sydd i ddod. Er ein bod ni’n gwneud pob ymdrech i liniaru tarfu ar ddefnyddwyr, mae’r gwaith hwn yn hanfodol a rhaid iddo gael ei gynnal fel a drefnwyd.

Sylwer y bydd gwasanaethau gwifr a Wi-Fi yn parhau i fod ar gael mewn adeiladau eraill pan fydd y gwaith mudo yn mynd rhagddo.