Yn y diweddariad hwn am deithio’r campws, byddwn yn rhannu gwybodaeth am wasanaethau bysiau yn ystod y gwyliau, cyfnodau adolygu ac arholiadau yn ogystal â’r hyn rydyn ni’n ei wneud y tu ôl i’r llenni i wella teithio cynaliadwy a llesol.
Gwasanaethau Bws
Rydyn ni wedi bod yn gweithio’n galed eleni, mewn partneriaeth â First Bus, i wella gwasanaethau bws lleol yn seiliedig ar eich adborth chi – diolch i’r holl fyfyrwyr a rannodd eu profiadau!
Dyma grynodeb o’r hyn sydd wedi digwydd hyd yn hyn:
- 3 Grŵp Defnyddwyr Bysiau Wedi’u Cynnal
Roedd pob sesiwn yn cynnwys cynrychiolwyr First Bus a oedd yn awyddus i glywed yn uniongyrchol gennych chi am eich profiad o ddefnyddio bysiau rhwng y campysau a gwasanaethau lleol eraill. Y sesiynau hyn yw eich cyfle i ddylanwadu ar y gwasanaethau rydych chi’n dibynnu arnyn nhw.
Cynhelir y sesiwn nesaf ar 10 Ebrill – i gadw lle ynddi e-bostiwch estatesadmin@abertawe.ac.uk - Eich Adborth = Gwelliannau Go Iawn
Diolch am rannu eich sylwadau yn y grwpiau hyn. Mae First Bus wedi gwneud sawl newid i ddiwallu anghenion myfyrwyr yn well, gan gynnwys gwasanaethau newydd i gyd-fynd ag amserau dechrau/gorffen darlithoedd, bysiau arbennig ar gyfer arholiadau a chynlluniau i wella gwasanaethau’r nos erbyn mis Medi. Mae adborth gan fyfyrwyr a staff yn awgrymu bod y gwasanaethau eleni’n sylweddol well na’r llynedd. - Ymgysylltu ar y Campws
Mae ein Swyddog Teithio Cynaliadwy wedi ymuno â chwe sesiwn Ymgysylltu Cyfadrannau eleni i roi’r newyddion diweddaraf i chi a chlywed eich barn yn bersonol. Hoffech chi iddi ymweld â’ch adran neu’ch coleg chi? E-bostiwch travel@abertawe.ac.uk a byddwn ni’n trefnu hynny.
Amserlenni First Bus ar gyfer y Pasg a Thymor 3 – beth sydd angen i chi ei wybod
Mae’r amserlenni i’w cyflwyno ar gyfer Tymor 3 wedi cael eu llywio gan eich adborth chi:
- 13 Ebrill – 3 Mai: Amserlenni y tu allan i’r tymor ar waith – gallwch eu gweld yma.
- 4 – 10 Mai: Bydd amserlen â llai o wasanaethau ar waith yn ystod yr wythnos adolygu pan fydd llai o bobl ar y campws – gallwch ei gweld yma.

- 11 Mai – 7 Mehefin: Bydd amserlenni arbennig ar gyfer arholiadau yn cyd-fynd ag amserlenni arholiadau mis Ionawr, gan sicrhau eich bod yn gallu teithio i arholiadau ac oddi yno’n hawdd – Gallwch weld yr amserlen yma.
Cofiwch gynllunio ymlaen llaw a gwnewch yn siŵr eich bod yn gwybod ble bydd eich arholiad. Cofiwch edrych ar ap First Bus yn rheolaidd am yr wybodaeth ddiweddaraf.
Beicio a Theithio Llesol
Y llynedd, dewisodd tua 14% ohonoch chi feicio neu gerdded i’r campws – bydden ni wrth ein boddau’n gweld hyd yn oed mwy ohonoch chi’n ymuno â’n cymuned teithio llesol!
Mae dewis teithio llesol yn:
- Fforddiadwy.
- Gwych ar gyfer eich lles corfforol a meddyliol.
- Helpu Prifysgol Abertawe i gyrraedd ein nod o gyflawni sero net erbyn 2035.
Eleni, gan ddefnyddio adborth o’n harolwg teithio, ein grwpiau defnyddwyr a ffynonellau eraill, rydyn ni wedi:
- Cyflwyno cynllun rhannu beic newydd a gwell – gall myfyrwyr ymaelodi am £10 y flwyddyn yn unig!
- Cynllunio gorsafoedd beic newydd a fydd yn dod i True a Pharc Chwaraeon Bae Abertawe (Lôn Sgeti) yn fuan – mae trafodaethau am hyb newydd y tu allan i Orsaf Drenau Abertawe yn mynd rhagddynt yn dda!
- Helpu dros 500 ohonoch chi i wneud eich beiciau’n ddiogel ar y campws drwy farcio beiciau gyda BikeRegister – mae achosion o ladrata ar y campws wedi gostwng traean!
- Dosbarthu dros 500 o gloeon a goleuadau am ddim yn ein sioeau teithiol beicio rheolaidd ar y campws – cadwch lygad am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau i ddod.
Beth Nesaf?
Arolwg Teithio 2024/25 – Ar Ddod yn Fuan…
Caiff ein harolwg teithio blynyddol ei gynnal o Mai 5ed.
Dyma’ch cyfle i ddweud eich dweud a helpu i lywio gwasanaethau’r dyfodol.
Rydyn ni’n gwrando!
Rydyn ni’n gwybod pa mor bwysig yw opsiynau teithio dibynadwy a chynaliadwy i’ch profiad cyffredinol.
Er nad ydyn ni’n rheoli rhai gwasanaethau megis gweithrediadau bysiau masnachol yn uniongyrchol, rydyn ni’n ymrwymedig i eirioli ar eich rhan, gwrando ar eich profiadau a pharhau i bwyso am welliannau.
Os oes gennych syniadau neu adborth, rydyn ni bob amser yma i wrando: travel@abertawe.ac.uk
Ystadau a Gwasanaethau Campws