Os wyt ti’n sefyll asesiadau ym mis Mai, cymera gipolwg ar yr isod sy’n amlygu gwybodaeth ddefnyddiol i’th gefnogi a’th helpu i baratoi a theimlo bod gennyt ti’r holl wybodaeth sydd ei hangen arnat ti wrth ddechrau’r cyfnod hwn.

Cyrsiau am ddim i’th helpu i baratoi!

Er y gall y cyfnod asesu fod yn adeg heriol i lawer o fyfyrwyr, gall y Ganolfan Llwyddiant Academaidd roi llawer o syniadau ac adnoddau astudio defnyddiol iti sy’n canolbwyntio ar fireinio dy sgiliau. Ar ben hynny, gall y Ganolfan dy helpu di i fagu hyder drwy amrywiaeth o gyrsiau, gweithdai a sesiynau tiwtorial un i un er mwyn iti ddod yn ddysgwr mwy effeithiol.

Fel rhan o Wythnos Sgiliau Arholiad y Ganolfan Llwyddiant Academaidd ar 31 Mawrth, gelli di ymuno ag ystod o gyrsiau i’th gefnogi gyda dy astudiaethau, megis y sesiynau effeithiol ar adolygu, meistroli llwyddiant mewn arholiadau ac ysgrifennu academaidd. Am ragor o wybodaeth ac i gofrestru, cer i dudalennau gwe’r Ganolfan, lle gelli di hefyd ddod o hyd i amrywiaeth o gyrsiau ar-lein i’w cwblhau yn dy amser dy hun.

Mae Undeb y Myfyrwyr hefyd yn cynnal amrywiaeth o weithgareddau Cymorth Astudio rhwng 5 a 6 Mai i’th gefnogi gyda dy adolygu neu i helpu i leddfu straen a’th gynorthwyo i ymdopi â phwysau ychwanegol y cyfnod hwn.

 

Gelli di fenthyg gliniadur neu ddefnyddio cyfrifiadur personol

Wyddet ti fod gennym ni liniaduron sydd ar gael i ti eu benthyg o lyfrgelloedd Campws Parc Singleton a Champws y Bae? 

Os bydd angen i ti fenthyg gliniadur cyn arholiadau, cer draw i dudalennau gwe’r llyfrgell i gael gwybod sut i wneud hyn. Mae’r broses fenthyca yn syml iawn.

Mae digon o gyfrifiaduron pen desg ar gael i ti eu defnyddio ar bob campws. Gelli di neilltuo rhai ohonynt, a gelli di ddefnyddio rhai heb eu cadw o flaen llaw. Ceir rhagor o wybodaeth yma. Gelli di gael mwy o wybodaeth am oriau cyfrifiaduron y tu allan i oriau swyddfa ar ein tudalen we Mannau Astudio.

Mannau astudio ar y campysau

P’un a wyt ti’n chwilio am fan tawel i astudio, eisiau cydweithio fel grŵp neu am ymlacio, mae digon o le i ti ym mhob un o’r tri champws.

I bori’n lleoedd, clicia yma.

Cymorth a Chyngor

Mae gennym ni’r peth delfrydol i’th helpu i baratoi ar gyfer cyfnod yr arholiadau sydd ar ddod!

Mae gan Hapus, ein Pecyn Cymorth Bywyd Myfyrwyr ar-lein, lu o awgrymiadau a gwybodaeth i’th helpu i gynllunio dy amserlen astudio, osgoi gohirio gwneud pethau, ac ymdopi â straen ac ansicrwydd. Gelli di gyrchu Hapus yma.

Mae gan Undeb y Myfyrwyr Ganolfan Cyngor a Chymorth annibynnol, a bydd y tîm ar gael i fyfyrwyr alw heibio yn ystod y cyfnod asesu.

Cydbwysedd rhwng astudio a chymdeithasu

Er bod astudio ac adolygu yn bwysig, mae sicrhau cydbwysedd yr un mor bwysig. Os wyt ti’n cymryd saib o dy astudiaethau, byddi di’n gallu gweld pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ym Mhrifysgol Abertawe drwy fynd i dudalen digwyddiadau Undeb y Myfyrwyr. Am ragor o wybodaeth am ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal ledled Abertawe, cer i dudalen we Ymweld â Bae Abertawe

Amserlenni

Bydd fersiwn personol o’ch amserlen arholiadau Mai 2025 ar gael drwy’r fewnrwyd wythnos hyn, cadwch lygad am yr e-bost yr wythnos hon yn cadarnhau sut i gael mynediad ar eich amserlenni arholiadau.

Teithio

Edrychwch ar ein tudalennau newyddion myfyrwyr am amserlenni First Bus yn ystod adolygu ac arholiadau. Mae’r amserlenni hyn wedi’u llunio gan eich adborth, ac maent yn canolbwyntio ar fynd â chi yn ôl ac ymlaen i arholiadau yn hawdd.

Mae beicio a cherdded i arholiadau hefyd yn opsiynau fforddiadwy, sy’n wych ar gyfer eich lles corfforol a meddyliol. Cofiwch gynllunio ymlaen llaw a dod i adnabod lleoliadau eich arholiadau.

Lleoliadau Arholiadau 

Cynhelir dy arholiadau mewn lleoliadau ar draws Campws Parc Singleton a Champws y Bae, yn ogystal â mewn lleoliadau allanol. Mae manylion am y rhain gan gynnwys mapiau ar gael isod:

Gwybodaeth gyffredinol am arholiadau

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol am arholiadau, gweler tudalennau gwe’r Swyddfa Arholiadau, sy’n cynnwys gwybodaeth am y pethau i’w gwneud a’u hosgoi yn ystod dy arholiadau, lleoliadau arholiadau a chwestiynau cyffredin.  

I gorffen, rydym am achub ar y cyfle hwn i ddymuno pob llwyddiant iti gyda’th asesiadau a’th arholiadau!

Tîm Bywyd Myfyrwyr.