Eleni, mae thema’r gystadleuaeth Celf Anatomeg Wal Ddynol yn gysylltiedig â’r system gardiofasgwlaidd.

Gofynion Cyffredinol: 

  • dim ond 1 cais gan bob person
  • Yn agored i holl fyfyrwyr Prifysgol Abertawe
  • Gyda phob cyflwyniad, rhaid darparu enw llawn, blwyddyn a rhaglen astudio, teitl y gwaith celf a pharagraff byr am yr hyn a ysbrydolodd y gwaith (dim mwy na 100 o eiriau)

Gofynion Technegol

  • Maint A2 ar y mwyaf
  • Mae gwaith crefft gwreiddiol yn well (i’w drin yn bersonol) neu JPEG o
  • PNG gwreiddiol os yw’r gwaith wedi’i greu’n ddigidol.

Dyddiad cau cyflwyno: 10 Gorffennaf 2025 

Cyhoeddir enw’r enillydd a’r gwobrau (a’r posibilrwydd o ddefnyddio gwaith enillydd y wobr gyntaf ar glawr blaen cyfnodolyn) i’w gadarnhau.

Caiff y tri chais gorau eu harddangos yn y labordai Anatomeg gyda’ch capsiwn yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe, Campws Singleton, Adeilad Grove.

Edrych ymlaen at eich cyflwyniadau! 

Marci a’r tîm Anatomeg

Am wybodaeth ychwanegol, cysylltwch â Marci Bezdickova (Anatomydd).