Mae bysus am ddim Abertawe yn ôl ar gyfer gwyliau’r Pasg, gan ddechrau ddydd Sadwrn 12 Ebrill ac yn dod i ben ar 27 Ebrill.
Mae Cyngor Abertawe wedi trefnu cyfanswm o naw niwrnod o deithio am ddim a fydd ar gael i bawb sy’n defnyddio bysus yn Abertawe.
Mae ar gyfer teithiau sy’n dechrau ac yn gorffen yn ardal Cyngor Abertawe. Rhaid i bob taith ddechrau cyn 7.00pm.