Rydym yn recriwtio tîm o Gynrychiolwyr Ysgol ar gyfer pob un o’n 11 Ysgol i gynrychioli llais y myfyrwyr a’n helpu i barhau i wella profiad myfyrwyr!

Felly, beth yw Cynrychiolydd Ysgol?

Mae Cynrychiolwyr Ysgol yn unigolion penodedig sy’n gweithio’n agos gyda Chynrychiolwyr Pwnc i gynrychioli’r holl fyfyrwyr yn eu Hysgol. Cânt eu cefnogi gan Swyddog Addysg Undeb y Myfyrwyr, Tîm Llais Myfyrwyr yr UM, a staff y Brifysgol i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i brofiad Abertawe.

Maent yn mynychu cyfarfodydd gyda staff yn eu Hysgol, yr UM, a hyd yn oed yn cyfrannu at bwyllgorau pwysig y Brifysgol!

Mae’n brofiad gwych i’w ychwanegu at eich CV a bydd yn edrych yn ddeniadol i gyflogwyr y dyfodol. Hefyd, byddwch yn gwneud ffrindiau newydd, yn rhwydweithio â staff ar draws y Brifysgol, yn datblygu sgiliau diddiwedd, ac wrth gwrs yn helpu i wneud gwahaniaeth ystyrlon i’ch Ysgol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn gwneud cais, gwnewch gais trwy’r linc isod:

Os byddwch yn llwyddiannus yn y broses ymgeisio, cewch eich gwahodd i gyfweliad grŵp rhithwir rhwng y 13eg a’r 17eg o Fehefin.

Mae ceisiadau’n cau am 5yp ar y 8fed o Fehefin, am fwy o wybodaeth cysylltwch â SPES@swansea.ac.uk

Pob lwc!