Wyt ti’n ystyried newid astudiaethau neu lwybr gyrfa ond yn poeni ei bod hi’n rhy hwyr? Gall cwrs trosi ôl-raddedig fod yn ddelfrydol i ti.
Beth yw cwrs trosi?
Mae cyrsiau trosi yn galluogi graddedigion o UNRHYW gefndir pwnc i astudio cwrs Meistr nad yw’n gysylltiedig â’u gradd israddedig. Mae hyn yn rhoi cyfle i ti newid cyfeiriad dy astudiaethau neu dy lwybr gyrfa, a chyfle i ehangu dy sylfaen wybodaeth, dy gyfleoedd cyflogaeth, a dod yn arbenigwr yn dy bwnc Meistr dewisol.
Rydyn ni’n cynnig cyfle i ti astudio gwrs trosi mewn Cyllid, Cyfrifiadureg, Realiti Rhithwir, Meddygaeth (Mynediad i Raddedigion), Seicoleg, Rheoli Busnes, a’r Gyfraith.
Oes gen ti gwestiwn? Ebostia ni.