Yn aml cynhelir mentrau ac ymgyrchoedd codi arian dros elusennau ar ein campws dan arweiniad myfyrwyr a staff sy’n gwneud gwahaniaeth go iawn. Rydyn ni’n falch o gefnogi’r ymdrechion hyn a hoffen ni sicrhau bod pob gweithgaredd codi arian ar y campws yn ddiogel ac yn dryloyw.
Rydyn ni wedi derbyn adroddiadau yn ddiweddar am unigolion yn casglu arian nad ydynt wedi’u cydnabod yn swyddogol gan y Brifysgol nac Undeb y Myfyrwyr. Er bod ein campws yn lle diogel, rydyn ni’n annog pawb i fod yn wyliadwrus wrth roi arian a dilyn y camau syml hyn:
- Peidiwch â rhoi arian neu roddion i unigolion oni bai eich bod yn sicr eu bod yn rhan o elusen swyddogol neu ymgyrch a arweinir gan Brifysgol Abertawe neu Undeb y Myfyrwyr.
- Os ydych chi wedi rhoi arian ac yn poeni, rhowch wybod am hyn fel twyll i’ch banc ac Action Fraud.
- Os ydych chi’n sylwi ar unrhyw weithgarwch anarferol neu amheus, gallwch roi gwybod am hyn i’r tîm Diogelwch ac Ymateb Campws ar 01792 604271 neu cysylltwch â ni drwy ap SafeZone.
Mae pob gweithgaredd codi arian cymeradwy ar y campws yn cael ei drefnu gan Brifysgol Abertawe neu Undeb y Myfyrwyr. Mae’n hawdd adnabod yr ymgyrchoedd hyn a chânt eu cefnogi gan negeseuon e-byst.
Diolch am fod yn wyliadwrus a’n helpu ni i gadw cymuned ein campws yn ddiogel. Os oes gennych bryderon, cysylltwch âr tîm Diogelwch ac Ymateb Campws.