Gallwch gofrestru ar-lein ar gyfer eich Seremoni Raddio nawr! Defnyddiwch y ddolen isod a darllenwch y cyfarwyddiadau i gofrestru eich presenoldeb.
- Mewngofnodwch i’ch cyfrif Mewnrwyd.
- Cliciwch ar y tab Graddio yn y blwch Digwyddiadau/Nodiadau Atgoffa o dan eich llun myfyriwr.
- Dilynwch y cyfarwyddiadau a chwblhau’r broses gofrestru – mae hi mor syml â hynny! Ar ôl i chi wneud hyn, byddwch yn derbyn e-bost i gadarnhau eich bod chi wedi cofrestru.
Gwybodaeth bwysig
- Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru eich presenoldeb yw dydd Gwener 16 Mai 2025.
- Sylwer y bydd modd archebu tocynnau i westeion a gynau maes o law. Gweler eich rhestr wirio ar gyfer eich diwrnod graddio isod, a chaiff cyfarwyddiadau llawn eu hanfon atoch (dros e-bost) ar yr adegau priodol.
- Os cewch broblemau TG pan fyddwch yn cofrestru eich presenoldeb, cysylltwch â’r Ddesg Wasanaeth TG. Sylwer bod y Ddesg Wasanaeth TG yn derbyn e-byst a anfonir gan eich cyfeiriad e-bost yn y Brifysgol yn unig.
Eich rhestr wirio ar gyfer Graddio
Cam 1:
Cofrestrwch eich presenoldeb
Rydych chi newydd gwblhau’r cam hwn, gobeithio!
Cam 2:
Archebwch eich gwisgoedd (cap a gwn)
Ddydd Iau 1 Mai byddwch chi’nn gallu archebu eich gwisgoedd (cap a gŵn).
Unwaith eto, byddwn ni’n e-bostio’r ddolen ar gyfer archebu a’r cyfarwyddiadau cysylltiedig atoch chi – ni allai fod yn haws.
Cam 3:
Ffotograffiaeth
Bydd ffotograffiaeth yn gweithredu ar sail galw heibio ar y diwrnod. Nid oes angen i chi archebu ffotograffiaeth ymlaen llaw.
Gallwch chi hefyd brynu ffotograffiaeth o’ch eiliad yn croesi’r llwyfan, ynghyd â lawrlwytho fideo o’r cynulliad cyfan.
Cam 4:
Gwybodaeth am deithio ac ar gyfer y diwrnod ei hun
Bydd gwybodaeth ychwanegol a manylach am deithio yn cael ei rhannu â chi ym mis Tachwedd. Fodd bynnag, mae ychydig o wybodaeth gychwynnol ar gael nawr.
Ar dydd eich Cynulliad Graddio cynghorir myfyrwyr sydd yn graddio i gyrraedd 1½ awr cyn eich cynulliad.
Cam 5:
Archebwch eich tocynnau i westeion
Ar ddechrau mis Gorffennaf, caiff pob myfyriwr sydd wedi cofrestru ei bresenoldeb archebu 2 docyn i westeion am ddim! Sylwer bod yn rhaid i chi archebu’r tocynnau hyn, nid ydyn nhw’n cael eu dyrannu’n awtomatig. Bydd nifer cyfyngedig o docynnau ychwanegol ar gyfer gwesteion yn ogystal â’r 2 docyn am ddim, a bydd y rhain ar gael i’w prynu.
Cofiwch, er mwyn bod yn gymwys ar gyfer seremonïau Graddio’r Haf, rhaid i chi gwblhau eich rhaglen astudio yn llwyddiannus, rhaid i Fwrdd Dilyniant a Dyfarniadau gadarnhau eich graddau, a rhaid i chi fod heb ddyledion ffïoedd dysgu sy’n ddyledus i’r Brifysgol.
Os na fyddwch chi’n bodloni’r maen prawf hwn, ni fyddwch chi’n gallu ymuno â’ch seremoni raddio a chewch eich gwahodd i’r gyfres nesaf o seremonïau sydd ar gael ar ôl i chi gwblhau eich rhaglen. Cadwch hyn mewn cof wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, er enghraifft os ydych chi’n archebu teithiau hedfan a gwesty.
Oes gennych chi gwestiwn neu ymholiad? Ewch i’n tudalennau gwe am ragor o wybodaeth. Os na allwch ddod o hyd i’r hyn roeddech yn chwilio amdano, mae manylion cyswllt y Tîm Graddio ar gael ar y tudalennau gwe.
Y Tîm Graddio