Mae graddio yn prysur agosáu – rho dy gais am gwrs Meistr ar lwybr carlam!

Gobeithio dy fod wedi mwynhau dy amser yma yn Abertawe yn fawr. Gan fod cyfnod graddio’r haf ddim ond ychydig fisoedd i ffwrdd, efallai dy fod ti wedi dechrau meddwl am beth rwyt ti’n mynd i’w wneud ar ôl dy radd israddedig.

Bydden ni wrth ein boddau pe byddet ti’n aros ychydig yn hirach gyda ni. Ac efallai astudiaethau ôl-raddedig yw’r ateb.

Mae astudiaethau ôl-raddedig yn gwneud synnwyr gan mai dyma’r dilyniant naturiol ar ôl dy radd israddedig, ac mae’n gyfle i ehangu dy sylfaen wybodaeth, dod yn arbenigwr yn dy bwnc dewisol, ac mae’n rhoi mantais gystadleuol i ti yn y farchnad swyddi.

Gall myfyrwyr Prifysgol Abertawe ymgeisio drwy Lwybr Cyflym

Oherwydd ein bod yn dy werthfawrogi fel myfyriwr presennol a bydden ni wrth ein boddau pe byddet ti’n aros gyda ni ychydig yn hirach, byddwn ni’n blaenoriaethu dy gais am gwrs Meistr os byddi di’n ymgeisio am un o’n cyrsiau cymwys drwy’r Llwybr Carlam. Does dim angen anfon trawsgrifiad, geirdaon na datganiadau aton ni. A byddi di’n cael penderfyniad ymhen 48 awr!

Mae gennym gyrsiau cymwys ar draws pob Ysgol a Chyfadran, felly mae rhywbeth at ddant pawb. Gweld y rhestr lawn o gyrsiau cymwys.

Ceir cyfarwyddiadau ar ein tudalen we Llwybr Carlam.

Oes gen ti gwestiwn? E-bostia: astudio@abertawe.ac.uk