Arolwg Teithio (ar agor 1 Mai)
Gyda’n Gilydd Rydyn ni’n Teithio’n Well
Mae’ch profiad ar y campws yn bwysig iawn i ni – ac mae hynny’n cynnwys sut rydych chi’n teithio i’r campws, o’r campws, ac o gwmpas y ddinas.
Dewch o hyd i ni ar y campws rhwng 5 a 9 Mai am eich cyfle i gwblhau’r arolwg, troelli’r olwyn a chael cyfle i ennill gwobrau, gan gynnwys mynediad i’r raffl i ennill taleb gwerth £350 ar gyfer Cycle Solutions x Uprise!
Neu cwblhewch yr arolwg ar-lein nawr – gadewch eich e-bost i gael eich cynnwys yn y raffl – https://bit.ly/42Rirwo
Dewch i ni gydweithio i wella gwasanaethau teithio a chludiant ar gyfer ffordd fwy gwyrdd, iach a chyfleus o deithio!
Arolwg Bwyd a Diod (ar agor 1 Mai)
Dweud eich dweud am fwyd a diod ar y campws!
Rydym yn chwilio am eich adborth i helpu i wella mannau arlwyo ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’n cymryd 5-10 munud yn unig, a gallwch ennill credyd UniFoodHub!
Cwblhewch yr arolwg nawr 👉 Arolwg Bwyd a Diod Prifysgol Abertawe